Skip to content

Diogelu a Lles

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb ar bawb yn y maes Athletau. Nod Athletau Cymru yw creu amgylchedd sy’n caniatáu i bawb deimlo’n saff a diogel er mwyn iddynt allu cyrraedd eu potensial – i redeg, neidio a thaflu, i hyfforddi,  gweinyddu neu i gefnogi’r rhai sy’n gwneud hynny.

Steve Jones, Swyddog Arweiniol Diogelu a Lles

Lles – beth mae’n ei olygu

Mae lles yn cynnwys amrywiaeth o faterion megis diogelu ac amddiffyn plant, gwrth-fwlio, tegwch, arferion gwael mewn hyfforddiant a materion cysylltiedig â disgyblaeth a chwynion. Mae’n cynnwys polisïau a gweithdrefnau i osod safonau disgwyliadau gofynnol, megis codau ymddygiad, gweithdrefnau i’w dilyn er mwyn ymdrin â phryderon cysylltiedig ag amddiffyn plant, problemau neu gwynion eraill cysylltiedig â lles, ac er mwyn sicrhau bod clybiau a chymdeithasau’n cyflawni eu cyfrifoldebau statudol o ddiogelu ac amddiffyn plant. Mae lles yn hanfodol er mwyn cyfrannu at arferion da yn y maes athletau, datblygu perfformiad a sicrhau diogelwch a mwynhad athletwyr, hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr.

Mae’n gyfrifoldeb ar bawb i sicrhau lles y rhai sy’n cymryd rhan mewn athletau. Ers 2004, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid yn UK Athletics a sefydliadau athletau gwledydd eraill Prydain - Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon - a chael cymorth gan uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC, er mwyn datblygu polisïau a gweithdrefnau lles i bawb sy’n ymwneud ag athletau, gan gynnwys ein polisïau a’n gweithdrefnau amddiffyn plant.

Mae’r polisi newydd wedi ei gymeradwyo gan fyrddau Athletau Cymru, UKA a sefydliadau gwledydd eraill Prydain a gellir ei lawrlwytho o’r fan hon. Mae ffurflenni cyfeirio a chanllawiau a ffurflenni eraill ar gael yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ……..

Swyddog Arweiniol Diogelu a Lles Athletau Cymru

Steve Jones yw’r Swyddog Arweiniol Diogelu. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi drafod unrhyw faterion cysylltiedig â diogelu plant, cysylltwch â Steve drwy e-bost steve.jones@ws-aa.org neu drwy ffonio  02920 644870 neu 07792242153.

Ar lefel y DU, yr unigolyn penodedig/ swyddog arweiniol amddiffyn plant yw David Brown CBE a gellir cysylltu â David drwy e-bost childprotection@ukathletics.org.uk, drwy’r post - Athletics Welfare PO Box 332, Sale, Manchester M33 6XL neu dros y ffôn ar 0161 223 4246 a 0800 316 3003.