Ysgolion
Ysgolion Cymru
Mae Cymdeithas Athletau Ysgolion Cymru’n trefnu cyfleoedd cystadlu Traws Gwlad a Thrac a Maes i ddisgyblion ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae’r ysgolion yn rhan ganolog o ymrwymiad Athletau Cymru i ddod ag athletau i gyrraedd pawb. Cynigir cyfleoedd i staff addysgu ac i ddisgyblion sy’n cychwyn ar eu siwrnai yn y maes athletau. Ar lefel Ysgol Uwchradd, caiff athrawon a disgyblion gyfle i ddatblygu yn y maes – drwy fentrau allweddol, cystadlaethau neu gyrsiau addysgol ffurfiol.
Mae Ysgolion Cymru wedi eu rhannu’n 8 Rhanbarth gyda nifer o Awdurdodau Lleol ym mhob rhanbarth fel y dangosir isod:
Rhanbarth WSAA |
Awdurdodau Lleol Cymru |
E-bost cyswllt |
Eryri |
Conwy, Gwynedd, Môn | |
De Ddwyrain Cymru |
Dinbych, y Fflint, Wrecsam | |
Powys |
Powys | |
Dyfed |
Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro | |
Afan Nedd Tawe |
Castell Nedd a Phort Talbot, Abertawe | |
Cymoedd Morgannwg |
Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf | |
Caerdydd a’r Fro |
Caerdydd, Bro Morgannwg | |
De Ddwyrain Cymru |
Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen |
Strwythur Cystadlu (Trac a Maes a Thraws Gwlad)
Lefel 4 – Tîm Cymru’n cystadlu ar lefel ryngwladol
Lefel 3 – Timau Rhanbarthol mewn Pencampwriaethau Cenedlaethol
Lefel 2 – Timau Awdurdodau Lleol yn cystadlu mewn Pencampwriaethau Rhanbarthol
Lefel 1 – Timau ysgolion mewn Pencampwriaethau Awdurdodau Lleol
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.