Cymryd Rhan
Trosglwyddiadau a Chymhwysedd
Erbyn hyn mae proses i athletwyr cofrestredig sy’n symud eu haelodaeth Hawl Gyntaf rhwng Athletau Cymru a chlybiau cyswllt.
(Proses ar gyfer newid clybiau o fewn Cymru yn unig yw’r broses ar-lein hon. Os ydych chi’n trosglwyddo i glwb mewn rhan arall o’r DU, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais bapur a geir gan Gorff Llywodraethu’r genedl briodol.)
Llenwi’r cais ar-lein
- Mewngofnodwch i’ch porth myATHLETICS UKA gyda’ch cyfeirnod a’ch cyfrinair
- Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar dab “Club Transfer” ar ochr chwith y sgrîn. Bydd hyn yn agor sgrîn “First Claim Club Transfer”
- Er mwyn cychwyn y cais i newid clwb Hawl Gyntaf, cliciwch ar “start new transfer”.
- Nodwch enw’r clwb newydd yr ydych yn trosglwyddo iddo yn y man priodol a nodwch unrhyw sylwadau yr hoffech eu hanfon i’r clwb yr ydych yn dymuno ei adael. Ar ôl llenwi’r ddau focs, cliciwch y bocs yn y gornel isaf ar y chwith ar ôl darllen a chytuno i delerau ac amodau’r trosglwyddiad. Os nad oes tâl (U15s) yn berthnasol, eir â chi i dudalen ‘transfer complete’.
- Gwybodaeth filio. Llenwch y bocsys a amlygir er mwyn nodi’r cyfeiriad lle mae eich cerdyn talu wedi ei gofrestru ac yna cliciwch y botwm “review and pay”.
- Edrychwch dros eich manylion ar y sgrin nesaf a thiciwch y bocs i gadarnhau ar gornel isaf y sgrin ar y chwith ac yna cliciwch ar “go to payment” er mwyn mynd ymlaen i’r sgrîn nesaf.
- Dewiswch eich dull o dalu a nodwch y manylion cerdyn y gofynnir amdanynt. Cliciwch ar “Pay £10 now” i gwblhau eich trosglwyddiad.
Bydd sgrin club transfer complete yn ymddangos gyda manylion am gam nesaf y broses a manylion cyswllt Athletau Cymru. Byddwch yn derbyn diweddariadau ynglŷn â datblygiad eich cais drwy e-bost.
Mae pwyllgor Athletau Cymru’n cyfarfod unwaith y mis er mwyn trafod a chymeradwyo ceisiadau a gyflwynir gan athletwyr er mwyn:
- symud o glwb Hawl Gyntaf i un arall neu
- symud i glwb Hawl Uwch ar gyfer Cynghrair Prydain
- ennill cymhwysedd i gystadlu dros Gymru.
Trosglwyddiadau Athletwyr |
||||||||||||
2019 |
Chwef |
Maw |
Ebr |
Mai |
Meh |
Gor |
Awst |
Medi |
Hyd |
Tach |
Rhag |
|
2018 |
Ion |
Chwef |
Maw |
Ebr |
Mai |
Meh |
Gor |
Rhag |
Caiff athletwyr bellach gyflwyno eu ceisiadau i drosglwyddo ar-lein drwy eu porth myAthletics.
Meini Prawf cymhwyso er mwyn cynrychioli Cymru
Sail ar gyfer cymhwyso:
- Genedigaeth
- Rhieni – athletwr i fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi bod ganddynt riant o Gymru.
- Statws preswylio – 2 flynedd o fyw yn Gymru yn barhaus. Athletwr i fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi ei fod wedi byw yn Gymru yn barhaus am o leiaf 2 flynedd. Sylwer: Mae angen i athletwyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fod wedi byw yn Gymru yn barhaus am o leiaf 5 mlynedd. Bydd angen mynd drwy’r system gymhwyso o hyd.
ch. Cadw statws – athletwyr sydd wedi cystadlu dros Gymru ar lefel uwch a mynd drwy’r system gymhwyso ond sydd wedi symud o Gymru. (wedi bod drwy’r system gymhwyso ar sail statws preswylio.) Sylwer: Ni chaiff athletwyr sy’n cadw eu statws gael eu hystyried ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.
Unrhyw ymholiadau? Cysylltwch â jacqueline.brace@welshathletics.org
· Os ydych chi’n symud o un o glybiau Cymru i glwb yn Lloegr, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen drosglwyddo bapur a’i hanfon i England Athletics.
· Os ydych chi’n symud o glwb yn Lloegr i glwb yng Nghymru, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen drosglwyddo bapur a’i hanfon i Athletau Cymru.
· SYLWER: Mae angen i bob athletwr sydd wedi cofrestru â chlwb o fewn y 3 blynedd ddiwethaf fynd drwy’r broses drosglwyddo.
Yn ogystal â chael Clwb Hawl Gyntaf, mae gan athletwr hawl i ddod yn aelod o Glwb Ail Hawl. Er mai am resymau cymdeithasol, hyfforddiant neu resymau eraill y byddai hyn yn digwydd o bosib, caiff yr athletwr gystadlu i’r clwb hwnnw mewn cystadleuaeth sy’n nodi’n benodol yn ei rheolau bod y gystadleuaeth yn agored i Aelodau Ail Hawl. Diffinnir athletwr o’r fath wedi hynny fel Aelod Ail Hawl. Rhaid i unrhyw glwb sy’n derbyn Aelod Ail Hawl gadarnhau gydag Athletau Cymru bod yr athletwr wedi cofrestru drwy ei glwb hawl gyntaf yn barod.
1. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn y degfed o’r mis a bydd yn weithredol o ddiwrnod cyntaf y mis canlynol. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y degfed yn cael eu cadw tan y mis nesaf.
2. Mae’r rhan fwyaf o drosglwyddiadau’n awtomatig erbyn hyn, ond os bydd athletwr yn gwneud ail hawl trosglwyddo o fewn cyfnod o ddeuddeng mis, nid yw’r trosglwyddiad yn digwydd ar y cyntaf o’r mis nesaf, bydd yn dod i rym dri mis yn ddiweddarach. Mewn rhai amgylchiadau mae gan yr athletwyr hawl i wneud apêl yn erbyn y penderfyniad hwn.
3. Mae gan glybiau ac athletwyr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Cymhwyso ar faterion trosglwyddo.
4. Atgoffir athletwyr bod yn rhaid i bob cais i gystadlu mewn cystadleuaeth uwch fod wedi ei dderbyn erbyn Mawrth y 1af. Mae’r ceisiadau’n ddilys am flwyddyn yn unig ac yn adnewyddadwy bob sesiwn.
Pan nad yw Clwb wedi cofrestru ar gyfer Cystadleuaeth Agored/Tîm mewn disgyblaeth benodol, caiff yr athletwr ymuno â Chlwb arall ar gyfer Cystadleuaeth Agored/Tîm Hawl Gyntaf i ddiben cystadleuaeth yn y ddisgyblaeth honno’n unig. Os bydd yr athletwr eisiau cofrestru ar gyfer Hawl Gyntaf Arall, rhaid iddo lenwi’r Ffurflen Hawl Gyntaf Arall a’i hanfon i Athletau Cymru i gael ei phrosesu. Mae’n rhaid i’r athletwr gofrestru bob blwyddyn gydag Athletau Cymru drwy ei Glwb Hawl Gyntaf.
O dan Reolau UKA, caiff unigolion wneud cais i ddod yn “aelodau ail hawl” o glybiau sy’n cystadlu mewn cystadlaethau lefel uwch. Mae’r gofyniad o fod wedi cofrestru ag Athletau Cymru a bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn dal yn ddilys er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaethau Cymru.
Am flwyddyn yn unig y mae pob cais yn ddilys ac mae’n rhaid eu hadnewyddu bob blwyddyn.
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.