Skip to content

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

license-event.jpg

Mae Athletau Cymru’n parhau i ymrwymo i wneud y maes athletau mor hygyrch ag y bo modd i gyfranogwyr o bob cefndir cymdeithasol ac ethnig. Rydym yn parhau i gynyddu cyfleoedd a lleihau’r rhwystrau. Ers i ni ennill gwobr Ganolradd y safon cydraddoldeb, rydym wedi bod yn symud ymlaen i weithio gyda chydweithwyr o UK Athletics a sefydliadau athletau gwledydd eraill Prydain tuag at y safon Uwch. 

Matt Newman, Prif Weithredwr 

Pery arolwg cydraddoldeb blynyddol ein haelodau i ddangos cynnydd mewn nifer o feysydd, cynnydd sylweddol yn enwedig yn yr aelodaeth fenywaidd. Nodwyd fod hwn yn faes datblygu allweddol i Athletau Cymru fel rhan o’n cyflwyniad ar gyfer y lefel Ganolradd. Ar ôl llwyddiant nifer o raglenni, mae gennym ni fwy o aelodau benywaidd (50.2%) nag aelodau Gwrywaidd am y tro cyntaf erioed. Er gwaethaf y twf cadarnhaol hwn, rydym yn cydnabod bod angen mwy o waith er mwyn cynyddu cyfranogiad menywod mewn Addysg Hyfforddwyr. O safbwynt llywodraethu, rydym yn falch o’n Bwrdd amrywiol ac yn parhau i arwain y ffordd o fewn y sector o ran aelodaeth fenywaidd a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Ein nod yw y bydd y safon a sefydlir ar lefel y Bwrdd yn cael ei hailadrodd ar draws strwythur llywodraethu Athletau yn y blynyddoedd i ddod. 

· Dau faes allweddol a enwyd fel blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol drwy arolwg yr aelodau oedd Iechyd Meddwl ac Anabledd.

BETH YW DEDDF CYDRADDOLDEB 2010

Daeth Deddf Cydraddoldeb newydd i rym ar 1 Hydref 2010 ac mae’n dod â mwy na 116 darn gwahanol o ddeddfwriaeth ynghyd mewn un Ddeddf. Gyda’i gilydd fel Deddf newydd maent 

yn darparu’r fframwaith cyfreithiol er mwyn amddiffyn hawliau’r unigolion a gwella cydraddoldeb cyfle i bawb. 

Mae’r Ddeddf yn symleiddio, yn cryfhau ac yn harmoneiddio’r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn rhoi cyfraith gwrth-wahaniaethu newydd i Brydain sy’n amddiffyn unigolion rhag cael eu trin yn annheg ac sy’n hyrwyddo cymdeithas mwy cyfartal a theg. 

Y naw brif ddeddfwriaeth sydd wedi uno yw: 

· Deddf Cyflog Cyfartal 1970 

· Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 

· Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 

· Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 

· Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003 

· Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 

· Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006 

· Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2 

· Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 

Canllawiau’r Ddeddf Cydraddoldeb

Unigolyn sy’n oedran penodol (32 mlwydd oed er enghraifft) neu sydd o fewn amrediad oedran (er enghraifft pobl rhwng 18 a 30 oed).

Canllawiau ar wahaniaethu ar sail oed.

Mae’r term yn cyfeirio at nodwedd warchodedig hil. Mae’n cyfeirio at grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu hil, eu lliw, a’u cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), tarddiad ethnig neu genedlaethol.

Canllawiau ar wahaniaethu ar sail hil.

Mae crefydd yn cyfeirio at unrhyw grefydd, gan gynnwys diffyg crefydd. Mae cred yn cyfeirio at unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac yn cynnwys diffyg cred/crefydd. Yn gyffredinol dylai cred effeithio ar eich dewisiadauu ynglŷn â’ch bywyd neu’r ffordd yr ydych yn byw eich bywyd er mwyn ei chynnwys yn y diffiniad.

Canllawiau ar grefydd neu gred yn y gwaith.