Skip to content

Y Cyngor Cyffredinol

Bydd Cyngor Cyffredinol Athletau Cymru Cyfyngedig yn rhoi arweiniad, cefnogaeth ac aliniad ar yr holl faterion sy’n ymwneud ag elfen weithredol athletau. Mae ei aelodau’n cynnwys dau gynrychiolydd etholedig o bob Rhanbarth, a chynrychiolydd o bob un o bwyllgorau Athletau Cymru. Mae aelodau ychwanegol yn cynnwys Llywydd Athletau Cymru, yn ogystal â staff Gweithredol uwch a fydd yn darparu diweddariadau gweithredol. 

Etholir Cadeirydd y Cyngor Cyffredinol gan yr aelodau am gyfnod o ddwy flynedd, ac mae’r Cadeirydd hefyd yn Gyfarwyddwr Athletau Cymru, sy’n sicrhau bod cyfathrebu uniongyrchol rhwng elfennau Gweithredol a Strategol strwythur Llywodraethu Athletau Cymru. 

Mae’r Cyngor Cyffredinol yn cynnwys: 

1. Y Cadeirydd, a fydd yn Gyfarwyddwr anweithredol Welsh Athletics Limited 

2. Y Llywydd 

3. Yr Ysgrifennydd 

4. Cynrychiolydd etholedig Is-bwyllgorau canlynol Welsh Athletics Limited: Trac a Maes, Rhedeg Ffordd, Traws Gwlad, Rhedeg Mynydd, Hyfforddi, Datblygiad a Swyddogion 

5. Hyd at ddau gynrychiolydd a benodir o bob un o’r Pedwar Cyngor Athletau Rhanbarthol 

6. Un cynrychiolydd o Gymdeithas Athletau Ysgolion Cymru 

7. Cynrychiolwyr o Dîm Uwch Reoli’r Staff