Skip to content

Chwaraeon Glân

Mae atal dopio mewn chwaraeon yn hanfodol er mwyn cynnal yr uniondeb a’r ethos yr ufuddheir iddynt ar lefel fyd-eang. Yn y DU rydym ni’n arbennig o flaenweithgar mewn perthynas â chynnal chwaraeon di-gyffuriau ac mae UKA ar flaen y gad. Mae UKA yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar eu gwefan sy’n gywir ac yn gynhwysfawr i athletwyr (o bob oedran a lefel), hyfforddwyr, rhieni, staff cymorth meddygol, swyddogion ac aelodau eraill o grŵp cymorth yr athletwyr sydd angen gwybodaeth briodol er mwyn deall a chydymffurfio â’r rheoliadau atal dopio.

Rydym yn awyddus i ddarparu gwybodaeth syml, glir i’n hathletwyr a’n hyfforddwyr ac rydym yn ymroddedig i gefnogi Athletau Glan o fewn y gymuned athletau yng Nghymru.

Adrian Palmer, Addysgwr a Rheolwr Rhaglen Clean Athletics

Mae’r adran Chwaraeon Glân ar wefan UKA yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr. Mae llawer o’r wybodaeth hefyd ar gael wedi ei hargraffu yn rhad ac am ddim – anfonwch e-bost i enquiries@cleanathletics.org.uk gyda’ch manylion cyswllt a’ch anghenion, ac fe anfonir gwybodaeth i chi. Dwy wefan arall ardderchog yw gwefan UK Sport www.uksport.gov.uk a www.ukad.org.uk. Yma fe gewch amrywiaeth o wybodaethau cysylltiedig ag atal dopio ac mae modd i chi hefyd wirio statws unrhyw feddyginiaeth y gallech chi fod yn ei defnyddio.

Dolenni hanfodol:

100% fi: Chwaraeon Pur, Talent Wirioneddol

Mae 100% me yn ymwneud â bod yn athletwr gwirioneddol. Mae’n golygu gallu dweud mai fi sydd 100% yn gyfrifol am fy mherfformiad. ‘Does dim cyfrinach i fy llwyddiant, dim ond gwaith caled, penderfyniad a thalent.

Edrych ar eich Meddyginiaeth

Gallai llawer o feddyginiaethau sydd ar gael ar gyfer cyflyrau meddygol cyffredin, megis asthma neu glefyd y gwair, gynnwys sylweddau gwaharddedig. Mae angen bod yn ymwybodol eu bod yn aml i’w cael mewn cynnyrch a roddir i chi mewn presgripsiwn gan eich meddyg neu a brynir dros y cownter yn y fferyllfa.

Mae’r cyngor gan UK Anti-Doping yn syml – edrychwch yn fanwl ar bob un sylwedd neu feddyginiaeth cyn i chi ei defnyddio, hyd yn oed os ydych chi wedi ei defnyddio o’r blaen. Mae’n bwysig cofio hefyd y gallai meddyginiaethau a brynir dramor gynnwys sylweddau gwahanol i’r rhai a brynir yn y DU ac fe ddylech chi edrych yn fanwl ar y cynhwysion cyn eu cymryd.  

Atchwanegiadau

Nid oes unrhyw sicrwydd nad yw atchwanegiadau (supplements) yn cynnwys sylweddau gwaharddedig.

Cyn i chi gymryd atchwanegiad, dylech:

asesu’r angen – dylai bob athletwr ofyn cyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol neu faethegydd ynglŷn â’r angen i ddefnyddio atchwanegiadau

asesu’r risg – ymchwiliwch yn drylwyr i’r atchwanegiadau yr ydych yn ystyried eu cymryd.

asesu’r goblygiadau – gallech gael eich gwahardd am bedair blynedd.

Athletau Glân

Sicrhau bod athletwyr yn hyfforddi ac yn cystadlu yn ysbryd Chwaraeon Glân.

I gael gwybodaeth gynhwysfawr am Feddyginiaethau ac Atchwanegiadau yn ogystal ag addysg a gwybodaeth ar y gweithdrefnau profi presennol ewch i:

Gweithdrefn casglu sampl