Skip to content

Polisi Preifatrwydd

Preifatrwydd

 

Rydym ni yn Athletau Cymru eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi yn ddiogel, p’un a yw’r wybodaeth honno wedi dod drwy ein gwefannau neu o ffynonellau eraill. Rydym ni’n ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd a chydymffurfio ag egwyddorion cyfreithiau diogelu data priodol ym mhob rhan o’n gwaith.

 

Mae ein polisi preifatrwydd yn egluro ein hymrwymiadau i chi, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a thu hwnt, ac yn egluro’r ffordd yr ydym yn casglu, yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

 

Byddwn hefyd yn darparu hysbysiadau preifatrwydd mwy manwl a phenodol wrth ofyn i chi am wybodaeth bersonol ac mae’r hysbysiadau hyn hefyd ar gael isod.

 

Defnyddiwn ‘gwcis’ ar ein gwefan, ffeiliau data bychan a gadwir ar eich dyfais er mwyn helpu i wella eich profiad ar ein gwefannau.

 

Hawlfraint y Wefan

 

Diogelir gwybodaeth ar www.welshathletics.org a www.irun.wales gan hawlfraint. Y ffotograffydd a/neu Athletau Cymru sy’n dal yr hawlfraint ar y delweddau. Dylid gofyn caniatâd cyn copïo unrhyw ddeunyddiau, gan gynnwys unrhyw ddelweddau, oni nodir yn wahanol. Cysylltwch â ni os hoffech chi gopïo unrhyw ddeunyddiau oddi ar unrhyw un o’n gwefannau.

POLISI PREIFATRWYDD

Er mwyn lawrlwytho ein Polisi Diogelu Data, cliciwch yma

HYSBYSIADAU PREIFATRWYDD

Cliciwch y gair PDF ger bob categori isod a lawrlwythwch yr hysbysiad preifatrwydd perthnasol

PDF – Ymwelwyr ac unigolion nad oes hysbysiad penodol yn gymwys ar eu cyfer

PDF – Aelodau Athletau Cymru gan gynnwys athletwyr, swyddogion a chefnogwyr

PDF – Gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru i weithio gyda ni (nad ydynt yn aelodau)

PDF – Cyflogeion, gweithwyr, cyfarwyddwyr ac ymgynghorwyr

Defnyddio Cwcis

Mae’n bosib y bydd rhai rhannau o’n gwefannau’n defnyddio “cwcis” i helpu i dracio eich ymweliad ac i’ch helpu i fynd yn ôl ac ymlaen rhwng yr adrannau. Ffeil ddata fechan yw cwci a gaiff ei storio gan wefannau penodol ar yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n ymweld â gwefannau o’r fath. Gall cwcis gynnwys gwybodaeth megis eich cod adnabod a’r tudalennau yr ydych wedi ymweld â hwy. Yr unig wybodaeth bersonol a gynhwysir mewn cwci yw gwybodaeth yr ydych chi eich hun wedi ei darparu.

Gallem ddefnyddio cwcis ar ein Gwefan er mwyn cyflwyno gwybodaeth sy’n benodol i’ch diddordebau ac sy’n rhoi syniad i ni o ba rannau o’r Safle yr ydych yn ymweld â hwy ac adnabod pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r Wefan. Nid yw darllen cwcis yn rhoi mynediad i wybodaeth arall i ni ar yriant caled eich cyfrifiadur ac ni fydd ein Gwefan yn darllen cwcis a grëir gan wefannau eraill yr ydych chi wedi ymweld â hwy.

Cewch ddewis gwrthod derbyn cwcis drwy ddewis y gosodiad hwnnw ar eich porwr. Os byddwch yn dewis y gosodiad hwn, fodd bynnag, mae’n bosib na fydd modd i chi ddefnyddio rhai rhannau o’r wefan. Oni bai eich bod chi wedi addasu gosodiadau eich porwr fel eu bod yn gwrthod cwcis, bydd ein system yn defnyddio cwcis pan fyddwch yn ymweld â’r Wefan.

Sylwer y gallai darparwyr cynnwys trydydd parti hefyd ddefnyddio cwcis ac nid oes gennym ni reolaeth dros hynny. I gael gwybodaeth fanwl ar y cwcis a ddefnyddiwn a diben defnyddio’r cwcis, gweler yr adran ar Gwcis yn ein dogfen ‘Polisi Preifatrwydd a Chwcis’.