Skip to content

Rhedeg Cymdeithasol

MAE MWY NA 400,000 O OEDOLION YNG NGHYMRU YN RHEDEG YN RHEOLAIDD.

  • Mae rhedeg yn weithgaredd cymdeithasol, cynhwysol sydd ar gael i bawb drwy’r flwyddyn. Does dim angen unrhyw offer arbenigol ac mae’n galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i elwa ar amryfal adnoddau naturiol Cymru.
  • Profwyd fod rhedeg yn hwb i les meddyliol a chymdeithasol pobl, yn ogystal â bod yn elfen bwysig er mwyn atal a thrin cyflyrau iechyd cronig.

BYDD AWR O REDEG YN CYNYDDU EICH DISGWYLIAD OES O SAITH AWR (LEE ET AL, 2017).

Rhedeg Cymru yw rhaglen redeg gymdeithasol Athletau Cymru, a grëwyd am fod gan bawb reswm i redeg.

Yn Rhedeg Cymru, rydym yn cefnogi pobl a grwpiau i redeg, loncian a cherdded eu ffordd i fyw bywyd iachach. Felly waeth beth yw eich oedran, lefel ffitrwydd, nod, cefndir neu leoliad, gall pawb fod yn rhan o gymuned Rhedeg Cymru. Rydym yn rhoi cyfleoedd cyfeillgar, cefnogol a chynhwysol i bawb yng Nghymru redeg, ac rydym yma i helpu i annog mwy o bobl i redeg gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Os ydych chi’n diddori mewn dod yn fwy actif a rhoi cynnig ar redeg, rydym yma i’ch croesawu i Redeg Cymru.