Skip to content

Manteision Aelodau

Athletau Cymru – Buddion Aelodaeth Gyswllt a Chofrestru

Mae cofrestru yn rhan o amodau cystadlu UKA. Mae cymhwysedd i gystadlu fel clwb neu unigolyn yn dibynnu ar statws aelodaeth gyswllt (clwb) a chofrestriad (unigolyn). Gweler www.britishathletics.org.uk/competitions/rules i gael y wybodaeth lawn.

Buddion i unigolion sydd wedi cofrestru ag Athletau Cymru:  

  • Yswiriant i’ch diogelu wrth i chi gymryd rhan mewn athletau.
  • Bydd pob aelod cofrestredig yn cael rhif cofrestru unigryw ac yn cael proffil unigol ar System gofrestru’r DU.
  • Proffil athletwr unigol sy’n gysylltiedig â Power of 10 / Run Britain.
  • Caiff pob aelod cofrestredig £10 oddi ar bris cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal, caiff aelodau clwb cyswllt cofrestredig hefyd ddisgownt o £2 ar ffioedd cofrestru nifer o rasys ffordd trwyddedig.
  • Byddwch yn gymwys i gael disgownt ar ffioedd cyrsiau hyfforddwr wrth fanteisio ar lwybr addysg hyfforddwr ffurfiol.  (Cymhwyster Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg, Cynorthwyydd Hyfforddi, Hyfforddwr Athletau a Hyfforddwr Ffitrwydd Rhedeg).
  • Mae Athletau Cymru hefyd yn cynnig rhaglen gystadlu blwyddyn gyfan ar gyfer bob disgyblaeth, bob grŵp oedran, bob lefel gallu a phob rhanbarth. Caiff aelodau’r clwb gystadlu mewn digwyddiadau pencampwriaeth (rhanbarthol a chenedlaethol) yn ogystal â chyfleoedd rhyngwladol (fel y bo’n briodol).
  • Mynediad i ddigwyddiadau, seminarau, cynadleddau a gweithdai technegol cenedlaethol a rhanbarthol sy’n cynorthwyo hyfforddwyr, swyddogion, athletwyr a gwirfoddolwyr ar draws y maes athletau.
  • Cymhwyster ar gyfer cynigion cystadlaethau British Athletics.
  • Byddwch hefyd yn derbyn cylchlythyrau a diweddariadau (dewisol) rheolaidd gan Athletau Cymru er mwyn rhoi gwybod i chi am straeon newyddion a datblygiadau diweddaraf y maes athletau.
  • Cynigion aelodaeth gyda DWFF gyms a disgownt o 10% yn DW Stores.
  • Disgownt o 20% ar bris clustffonau Aftershokz.
  • Disgownt o 20% ar bris Runderwear.