Skip to content

Disgyblaethau Cystadlaethau

Quadkids Rc BD CA.jpg

Mae’r maes athletau yn un hynod amrywiol sy’n cynnig gwahanol gystadlaethau a disgyblaethau, felly waeth beth yw lefel eich gallu, rydych yn sicr o ddod o hyd i gystadleuaeth sy’n addas i chi! Mae 5 prif faes Athletau: Trac a Maes, Traws Gwlad, Rhedeg Ffordd, Llwybr, Mynydd a Bryniau.

TRAC A MAES:

Mae Trac a Maes yn cynnwys elfennau allweddol rhedeg, neidio a thaflu. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cystadlaethau trac a maes yn nhymor yr haf a chynhelir rhaglen dan do yn ystod misoedd y gaeaf.

  • Ar y trac, mae rasys sy’n amrywio o ran pellter o sbrintiau byr i bellter hir ac o glwydi i ras ffos a pherth, ras gerdded a ras gyfnewid.
  • Ar y maes y cynhelir y cystadlaethau taflu a neidio sy’n cynnwys; naid hir, naid driphlyg, naid uchel, naid bolyn, yn ogystal â’r cystadlaethau taflu; morthwyl, pwysau, gwaywffon, disgen ac yn y cystadlaethau anabledd, taflu pastwn.
  • Mae’r cystadlaethau athletau sydd ar lwyfan y byd, megis y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Phencampwriaethau’r Byd yn ysbrydoli llawer o bobl i gymryd rhan mewn athletau, gan gynnwys plant a phobl ifanc. O fewn cystadlaethau, addasir yr athletau ar gyfer grwpiau oed ieuengach, er mwyn sicrhau eu bod yn fwy priodol ar gyfer eu cyfnod datblygu ac i roi’r cyfleoedd gorau iddynt gymryd rhan. Ewch i’n tudalen plant a phobl ifanc i gael gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn athletau

Gyda chynifer o gystadlaethau i roi cynnig arnynt, gall fod yn anodd dewis, felly beth am ystyried cymryd rhan mewn cystadlaethau cyfun megis yr heptathalon a’r decathalon lle mae’r athletwyr yn cystadlu i ennill pwyntiau mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau. Fe fyddem ni bob amser yn annog plant ifanc i gael profiad o wahanol chwaraeon yn eu clybiau er mwyn iddynt ddatblygu eu hathletiaeth a sicrhau bod y sgiliau sylfaenol yn cael eu datblygu mor gynnar â phosib.

TRAWS GWLAD:

Mae rasys traws gwlad yn digwydd yn nhymor y gaeaf ac fe’u cynhelir oddi ar y ffordd ar dir amrywiol. Gan fod pob cwrs traws gwlad yn wahanol, nid yw’r pellterau’n cael eu graddio, ond cofnodir yr amseroedd fel arfer. Mae llawer o glybiau ledled Cymru’n rhan o gynghreiriau traws gwlad ac yn cymryd rhan yn ein pencampwriaethau cenedlaethol, mae cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau agored dros y DU.

RHEDEG FFORDD:

Mae rhedeg ffordd yn hynod boblogaidd ac ar gael i bawb. Mae’r cyffro o gael rhai o athletwyr gorau’r byd yn cystadlu yn erbyn rhedwyr clwb a rhedwyr hamdden, fel y gwelir yn Hanner Marathon Caerdydd, yn beth prin iawn yn y byd chwaraeon.

Ceir amrywiaeth fawr o ran pellterau rhedeg ffordd, ac er bod pellterau safonol fel 5K, 10K, Hanner Marathon a Marathon, ceir pellterau byrrach hefyd o filltir i fyny i gystadlaethau Uwch-farathon (Ultra).

Rhoddir trwyddedau ras ar gyfer cystadlaethau a gynhelir yn unol â Rheolau Cystadlu UKA gan runbritain. Mae gwneud yn siŵr bod ras wedi ei thrwyddedu gan UKA yn golygu bod yr amodau trwyddedu priodol yn gymwys a bod cyflawniad yn gymwys i ddibenion graddio. Caiff y canlyniadau eu harddangos ar runbritain / Power of 10 

LLWYBR:

Mae rasys llwybr yn cynnwys amrywiaeth o gystadlaethau. Fe’u cynhelir yn bennaf ar lwybrau troed, llwybrau ceffyl a llwybrau halio lle mae hawl tramwy cyhoeddus. Gellir cynnal rasys llwybr hefyd ar dir preifat neu dir arall lle mae’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer cynnal y digwyddiad wedi ei roi.

Gall rasys llwybr fod yn unrhyw hyd, a mesurir eu hyd a’r cyfanswm a ddringir gydag adnoddau megis mapiau wedi eu graddio’n gywir, fel mapiau’r Arolwg Ordnans neu systemau GPS.

Mewn ‘Rasys â Chymorth’ caiff rhedwr gymorth gan dîm, megis ffrindiau, teulu neu eraill sy’n cael rhoi lluniaeth i’r cystadleuwyr neu ddarparu dillad glan ar hyd y ffordd yn unol â rheolau’r digwyddiad. Mae ‘Rasys Hunangynhaliol’ yn gofyn bod cystadleuwyr yn cario popeth sydd ei angen arnynt, ond gall trefnwyr ddarparu dŵr er mwyn atal dadhydradiad mewn uwch-farathonau ac mewn tywydd poeth. Mae ‘Rasys Carlam’ yn gofyn bod rhedwyr yn dewis eu llwybrau eu hunain ac yn galw heibio rheolfeydd ar hyd y ffordd sy’n cael eu nodi fel cyfeiriadau grid ar fapiau Arolwg Ordnans. ‘Rasys Adrannol’ yw’r rhai lle mae’r cwrs wedi ei rannu’n adrannau ar wahân gydag egwyl ar ddiwedd bob adran. Caiff amseroedd pob rhedwr eu cronni er mwyn pennu enillydd. Mae ‘Rasys Eithafol’ yn rasys hunangynhaliol dros 100km sy’n cynnwys adran y bydd y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn ei rhedeg dros nos.

MYNYDDOEDD A BRYNIAU:

Mae gennym ni draddodiad o redeg mynyddoedd a bryniau yng Nghymru ac yma, ym Metws-y-coed, y cynhaliwyd Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd yn 2015. Caiff rhedeg mynydd ei gydnabod yn rhyngwladol gan yr IAAF ac fe’i cynhelir yn bennaf oddi ar y ffordd, ar lwybrau pendant fel nad oes angen chwilio am na dewis y ffordd.

Cynhelir rasys bryniau dros amrywiaeth eang o bellterau gan gynnwys pellter uwch-farathon. Caiff y cyrsiau eu graddio’n gategorïau gyda’r graddau’n cael eu pennu gan bellter y ras a pha mor serth yw’r llwybr. Mewn rhai rasys, yn hytrach na chwrs penodol, gall y cystadleuwyr ddewis eu llwybr eu hunain rhwng y rheolfeydd. Gall rhedeg bryniau roi tir anodd iawn i redwyr. Gellir eu cynnal dros bellterau hir ac mewn tywydd cyfnewidiol a allai fod yn anodd. O’r herwydd mae’n hanfodol bod cystadleuwyr yn dewis rasys sy’n briodol i’w gallu a’u profiad ac yn cadw at yr holl ofynion diogelwch a nodir gan drefnwyr y ras. Gan y gallai nifer o rasys Categori A fod yn beryglus, dim ond y rhai sydd â’r profiad sy’n angenrheidiol er mwyn wynebu’r amodau anffafriol a allai godi ar fynyddoedd diarffordd a ddylai roi cynnig arnynt.