Skip to content

Adnoddau Hyfforddi

Yma byddwch yn ffeindio'r holl wybodaeth, ffurflenni ac adnoddau sydd angen i fod yn Hyfforddwr neu Arweinydd hefo Athletau Cymru. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

 

O 1 Ebrill 2019 bydd gofynion newydd yn dod i rym i hyfforddwyr a’r rhai sy’n adnewyddu trwydded mewn perthynas â hyfforddiant diogelu. Mae hyn wedi ei ddyfeisio’n arbennig ar gyfer y maes athletau gyda pholisïau a gweithdrefnau lles presennol UKA, felly mae’r enghreifftiau i gyd yn berthnasol i’r maes. Mae’r ffaith bod yr hyfforddiant yn digwydd ar-lein yn galluogi hyfforddwyr i’w gwblhau yn eu hamser yn lle bynnag y mae’n gyfleus. Bydd y cwrs, y rhoddir cymhorthdal ar ei gyfer, yn costio £10 i’w gyflawni. Mae’n cynnwys dau fodiwl yn ogystal â phrawf aml-ddewis byr ar ôl bob un. 

Disgrifiad: Ysgrifennwyd y modiwl hwn mewn partneriaeth ag Is-grŵp Addysg a Lles UKA. Fe’i hanelir at y rhwydweithiau cymorth athletwyr a hyfforddwyr yn bennaf fel rhan o’u gofynion hyfforddiant gorfodol.

Pris: £10

Prynu’r modiwl ar-lein 

Disgrifiad: Ysgrifennwyd y modiwl hwn mewn partneriaeth â Jane Fylan, Arweinydd Dyletswydd Gofal Athletau y DU ac fe’i cymeradwyir gan fenter enillydd dwy fedal Aur Olympaidd, y Fonesig Kelly Holmes MBE, ‘The Running Mind’. Fe’i hanelir at y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a’u rhwydweithiau cymorth megis hyfforddwyr, teulu a staff cymorth meddygol. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Pris: £9.50

Prynu’r modiwl ar-lein.

Disgrifiad: Dylai pawb, y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn hyfforddi neu’n gwirfoddoli, fod yn ymwybodol o fwlio a sut y gellir ei atal. Yn EduCare rydym yn sicrhau bod ein cyrsiau i gyd yn cael eu hysgrifennu a’u cymeradwyo gan arbenigwyr. Mae’r modiwl hwn wedi ei gynhyrchu mewn partneriaeth ag UK Athletics, corff llywodraethu athletau yn y DU. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Pris: £7

Prynu’r modiwl ar-lein.

Yswiriant

Cliciwch yma i weld Dogfen Yswiriant Hyfforddwyr ac Arweinwyr UKA.