
Digwyddiadau
Cynorthwydd Hyfforddi (WACA 19.10)

Digwyddiad yn cychwyn: 30/03/2019 09:00
Digwyddiad yn gorffen: 31/03/2019 16:00
Bydd Cynorthwydd Hyfforddi wedi ei yswirio i wneud gwaith hyfforddi dan oruchwyliaeth Hyfforddwr (Hyfforddwr Athletau neu hyfforddwr UKA Lefel 2 neu uwch).
Mae’r cwrs yn amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau Cynorthwyydd Hyfforddi, y gwahaniaeth rhwng y cwrs a chyrsiau Arweinydd a Hyfforddwr Athletau a’i safle o fewn y Llwybr Datblygu Hyfforddwr. Bydd nodweddion sylfaenol symud (biomecaneg) yn cael eu dysgu, yn ogystal â chyflwyniad i’r campau athletaidd. Edrychir ar nifer o agweddau dros y penwythnos, gan gynnwys yr egwyddorion sy’n sail i ac yn gwella perfformiad yn ogystal â dulliau o gyflwyno hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar yr athletwr.
Hyd: Cwrs 2 ddiwrnod (dydd Sadwrn a dydd Sul fel arfer)
I gael mwy o fanylion am gwrs Cynorthwyydd Hyfforddi, cliciwch yma.
Dyddiad: Dydd Sadwrn & Sul Mawrth 30 fed & 31fed
Pris: £170 i Aelodau Cyswllt £210 i eraill
Amser: 9:00 - 17:00
Cod y Cwrs: WACA19.10
Lleoliad: Aberystwyth
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: Dydd Gwener 22fed Mawrth
Er mwyn gwneud cais:
Cliciwch ar y ddolen er mwyn cofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn.
Neu anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi a’i llofnodi i zoe.holloway@welshathletics.org
Beth arall sydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gadw eich lle ar y cwrs?
Er mwyn ennill eich trwydded, bydd angen i chi gael gwiriad clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) drwy UK Athletics. Cewch weld statws eich gwiriad a chwblhau’r broses drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gydag Athletau Cymru a dilyn y cyfarwyddiadau isod:
1. Cliciwch y ddolen ar gyfer myATHLETICS portal
2. Nodwch eich enw defnyddiwr (URN)
3. Ar ôl ichi fewngofnodi fe welwch adran gyda’ch manylion personol. Ar waelod yr adran gyntaf, dangosir statws cyfredol eich gwiriad DBS.
4. Cliciwch ar y ddolen briodol er mwyn diweddaru eich gwiriad DBS. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.
5. Llwythwch lun maint pasbort.
Pan fydd UK Athletics wedi derbyn eich llun a chopi electronig o’ch tystysgrif DBS, bydd eich trwydded yn cael ei pharatoi a’i hanfon i chi.
Mwy o gwestiynau? I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y cwrs hwn, cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.