Newyddion
Diwrnod Lansio - #FromYourDoor
12/01/2021 00:00, I Mewn Blog / Club Notice Board /
Ar ras drwy redeg yn ysbrydoli ymgyrch newydd
Rhedeg Cymru yn gweld 18% o'r boblogaeth sy’n oedolion yn rhedeg yn ystod y cyfnod clo
Yn ystod cyfnod clo 2020 camodd dros 350,000 o bobl yng Nghymru* (18%) y tu allan i'w drysau ffrynt i redeg ar gyfer eu hymarfer corff dyddiol. Gyda champfeydd ar gau unwaith eto a chlybiau rhedeg yn methu ymarfer corff gyda'i gilydd, mae Rhedeg Cymru yn chwilio am loncwyr tro cyntaf, cerddwyr chwim a hen lawiau i ymuno â'u hymgyrch newydd gan O Fy Nrws a bod yn rhan o fudiad rhedeg newydd yn 2021.
Mae O Fy Nrws yn gobeithio annog 500,000 o bobl i ddefnyddio'r unig borth i ymarfer corff sydd gennym ar hyn o bryd, y drws ffrynt, fel y man cychwyn i gael awyr iach, ymarfer corff ac amser meddwl.
Boed yn bum munud neu bum milltir, mae’r ymgyrch yn annog pobl i wthio eu hunain i adael eu swyddfa gartref, soffa neu fwrdd cegin am ychydig funudau’r dydd ac i fynd trwy eu drws ffrynt i brofi buddion rhedeg. Gall unrhyw un gymryd rhan trwy rannu eu profiadau a dathlu eu cyflawniadau gan ddefnyddio #OFyNrws ar gyfryngau cymdeithasol.
Hefyd, does dim rhaid i'r rhai sy'n ymuno deimlo'n unig. Mae Rhedeg Cymru yn cynnal tua 100 o glybiau rhedeg ledled y wlad, ac mae clybiau, grwpiau a heriau rhedeg lleol annibynnol di-ri sy'n cynnig cefnogaeth nid yn unig ym mis Ionawr, ond trwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Josie Rhisiart, Arweinydd Rhedeg Cymru yn Ynys Môn:
“Bum mlynedd yn ôl, roeddwn yn cael trafferth gyda fy mhwysau ac iechyd meddwl, ond yna rhoddais gynnig ar redeg. A rŵan? Ni allwch fy rhwystro! Mae rhedeg wedi fy helpu’n aruthrol trwy gydol y cyfnod clo ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld pobl fel fi - y rhai nad oeddent yn gweld eu hunain fel rhedwyr - yn disgyn mewn cariad ag ef. Er na allwn redeg gyda'n gilydd ar hyn o bryd, rydym yn dal i ysgogi ein gilydd a rhannu lluniau, llwybrau a straeon rhedeg. Fy nghyngor i yw dechrau'n araf a bod yn garedig â chi'ch hun - byddwch chi'n synnu at yr hyn y gallwch chi ei wneud."
Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru:
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cartrefi wedi dod yn bopeth i ni. Nhw yw ein swyddfeydd, ysgolion, nosweithiau i mewn a nosweithiau allan. Ond mae ein drysau ffrynt yn cynnig y bloc cychwyn gorau i ddianc o'r pedair wal a gwella ein hiechyd meddwl a'n lles.
“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn camu y tu allan i'w drws ffrynt i redeg yn eu hardal leol yn 2020 ac eleni rydym yn gobeithio annog hyd yn oed mwy i ymuno. Mae popeth 'lleol' yn bwysicach nag erioed ac mae gennym ni gymuned enfawr o grwpiau rhedeg sy'n cynnig cefnogaeth 365 diwrnod y flwyddyn. P'un a ydych chi'n ei redeg, ei gerdded neu ei loncian, jyst byddwch yn rhan ohono a'n helpu ni i gael Cymru i symud."
Bydd digwyddiad rhedeg rhithwir yn cael ei gynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu cenedl newydd o redwyr. I gymryd rhan, cofrestrwch ar irun.wales/ofynrws