Skip to content

Rhedwyr ifanc Aber ar dân unwaith eto

09/09/2021 00:00, I Mewn Blog /

Wrth i'n hysgolion ailagor a thymor newydd yn cychwyn, mae Clwb Athletau Aberystwyth unwaith eto'n gallu cyflwyno ei sesiynau rhedeg ar gyfer ein hieuenctid. Heb os, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i'n pobl ifanc ac maent wedi dangos tipyn o wytnwch yn ystod y cyfnod hir a chaled hwn.

Yn draddodiadol mae’r clwb wedi cael cefnogaeth gref i’w sesiynau ieuenctid ac os yw’r diddordeb a ddangoswyd eisoes yn parhau, cryfhau fydd y gefnogaeth hynny yn ôl un o’r arweinwyr, Enid Gruffudd,

“Wedi methu â chynnal unrhyw sesiynau rhedeg dros y misoedd diwethaf, fe wnaethon ni lwyddo i gynnal ychydig o sesiynau cyn gwyliau'r haf gan lynu wrth gwrs yn gaeth at ganllawiau Covid. Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn ôl, eu cyffro a’u hegni yn llenwi cae Penweddig, lle rydyn ni’n hyfforddi, ac yn awyddus iawn unwaith eto i fynd amdani!”

Gyda gwyliau'r haf drosodd, mae blwyddyn redeg arall yn cychwyn ac mae croeso cynnes i redwyr newydd fel yr eglura Enid,

“Rydyn ni i gyd wedi cael seibiant dros wyliau’r haf, ac rydyn ni fel hyfforddwyr yn awchu i fynd a dechrau blwyddyn newydd o redeg, tra’n mwynhau’r awyr agored a’r ardal leol gyda’n pobl ifanc."

 

“Mae ‘na groeso mawr i bobl ifanc o bob gallu. Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw cael pobl ifanc allan yn mwynhau bod yn egnïol, gan ddatblygu eu cryfder a'u ffitrwydd fel rhedwyr tra hefyd yn mwynhau a gwneud ffrindiau newydd. Rydym yn lwcus iawn fel Clwb ac mae gennym dîm gwych o hyfforddwyr sy'n barod i roi o'u hamser i hyfforddi ac annog ein pobl ifanc.”

Mae Sonny Forbes wedi bod yn aelod o'r clwb iau ers nifer o flynyddoedd ac yn dweud ei bod yn wych bod yn ôl,

“Rwy’n hapus iawn i fod yn ôl yn y clwb rhedeg gan ei bod yn braf gweld fy ffrindiau a hefyd mae’n dda bod yn ôl yn gwneud yr ymarfer yr wyf yn ei garu ac yn ei fwynhau.”
Mae Enid yn sylweddoli bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb ond yn gobeithio y gallwn nawr symud ymlaen yn hyderus,
“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych dros y flwyddyn ddiwethaf, gan y rhieni a’r gofalwyr, yr hyfforddwyr a’r cynorthwywyr yn ogystal â’n AS lleol, Ben Lake tra bod Ysgol Gyfun Penweddig wedi caniatáu inni ddefnyddio ei chyfleusterau awyr agored gan sicrhau y gall ein Clwb gynnig y cyfleoedd hyn i’n pobl ifanc ac am genedlaethau i ddod. Diolch o galon. ”

  

Os hoffech wybod mwy am y clwb ieuenctid anfonwch ebost at Enid ar  enidfach@gmail.com.