Newyddion
Rhedwyr Aber yn ail-gychwyn
13/05/2021 00:00, I Mewn Blog /
Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb a phrin yw’r cyfleoedd i glybiau chwaraeon ddod at ei gilydd dros y deuddeg mis diwethaf. Ond wrth i’r niferoedd sydd wedi eu brechu gynyddu ac wrth i achosion o’r haint barhau i ostwng mae yna ychydig o oleuni ar ben draw’r twnel ac mae clybiau chwaraeon yn awyddus i ail-ddechrau, er yn gwneud hynny’n bwyllog a gofalus.
Un o’r rheiny a effeithwyd arno yw Clwb Athletau Aberystwyth a oedd, cyn y pandemig, yn trefnu gweithgareddau bum noson yr wythnos ar gyfer pob oedran a phob gallu. Yn ystod y cyfnod clo, bu hyfforddwyr yn brysur yn cynnig rhaglen barhaus o hyfforddiant rhithwir ond mae sesiynau grŵp ffurfiol i ddychwelyd y mis hwn fel yr esbonia’r cadeirydd Ian Evans,
“Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o ddweud y bydd ein sesiynau rhedeg yn ail-gychwyn ym mis Mai. Yn naturiol, byddwn yn glynu at ganllawiau perthnasol gyda niferoedd cyfyngedig a bydd angen archebu lle ymlaen llaw, ond mae'n gam pwysig i'r cyfeiriad cywir."
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae llawer wedi troi at ymarfer corff i’w helpu gydag iechyd corfforol a meddyliol ac mae Ian yn disgwyl cynnydd yn y diddordeb,
“Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi ein cyfleoedd aelodaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a thra bod hen aelodau’n awyddus i ddychwelyd i redeg fel grŵp rydym hefyd yn gweld aelodau newydd yn ymuno ar ôl dechrau rhedeg neu ddychwelyd at redeg dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Fel clwb cymunedol cyfeillgar, rydym yn croesawu hyn yn fawr iawn a byddem yn annog unrhyw un sy’n awyddus i redeg gydag eraill mewn criw cymdeithasol i gysylltu – byddai’n hyfryd eich gweld.”
Mae rhai o'r rhedwyr eisoes yn gwneud eu marc wrth gynrychioli Aberystwyth mewn rasys a gynhaliwyd dros y ffin gyda Paul Williams ac Edward Land yn rhedeg marathon Shepperdine ac Owain Schiavone yn rhedeg marathon Elite Swydd Gaer.
Gorffennodd Ed Land mewn amser o 2:49:51 tra sicrhaodd Paul Williams ei amser gorau o 3.06.47. Yn ei farathon cyntaf, gorffennodd Owain Schiavone mewn amser gwych o 2:42:16.
Gobeithio bod gweld cynnal y rasys hyn yn arwydd o bethau gwell i ddod ac os hoffech glywed mwy am Glwb Athletau Aberystwyth ac ymuno yn ei weithgareddau ewch i aberystwythac.wordpress.com neu chwiliwch am y clwb ar Facebook.