Skip to content

Chwaraeon Diogel Yn Ganolog I Adferiad Y Genedl

05/10/2020 00:00, I Mewn Blog /

O dan arweiniad Chwaraeon Cymru, mae’r sector chwaraeon yng Nghymru yn addo ymrwymo i wneud chwaraeon diogel yn rhan greiddiol o frwydr y genedl yn erbyn Covid-19.

Yng ngoleuni'r cynnydd mewn achosion newydd a’r cyfyngiadau symud lleol dilynol sy’n dod i rym ar gyfer llawer o'r boblogaeth, mae Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, wedi amlinellu pwysigrwydd arfer diogel a chyfrifol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer.

"Gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol chwarae rhan enfawr yn ein brwydr ni yn erbyn y feirws yma," meddai. "Mae bod yn actif yn sicrhau manteision aruthrol i'n lles corfforol a meddyliol ni, gan ein rhoi mewn sefyllfa well o lawer i fod â’r gwytnwch sydd ei angen i ddelio â chyfnod mor heriol.

"Rydyn ni wedi cael ein llorio gan y ffordd ddiflino mae clybiau, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a gwahanol ddarparwyr wedi wynebu'r her yn ystod y misoedd diwethaf o alluogi pobl i ddychwelyd at eu hoff weithgareddau mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

Gall pethau edrych a gweithio ychydig yn wahanol ar hyn o bryd, ond mae'r rheolau newydd yn eu lle i ddiogelu pawb ac i sicrhau nad yw chwaraeon yn cynyddu'r risg o drosglwyddo. Y peth olaf rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd yw i chwaraeon fod yn gyfrifol am unrhyw gynnydd penodol mewn achosion.

 

"Mae’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol yn gwneud gwaith gwych o dan amgylchiadau anodd iawn a rhaid i ni barchu'r gweithdrefnau diogelwch maen nhw wedi'u datblygu ar gyfer pob camp ar ôl dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y pwysau mae'r sefyllfa'n ei roi ar wirfoddolwyr yn arbennig, sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal chwaraeon yn ddiogel. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar iddyn nhw am eu hymdrechion.

"Rydyn ni’n hyderus, os bydd pawb yn parchu'r rheolau, bod gan chwaraeon rôl bwerus iawn i'w chwarae."

 

Drwy gydol y pandemig, mae Chwaraeon Cymru wedi gweithio'n agos gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru i gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried ynghylch pryd, a sut, dylai gweithgareddau ailddechrau. 

Am y tro cyntaf ers misoedd, ni chyflwynwyd unrhyw argymhellion i agor cyfleoedd chwaraeon ymhellach yn adolygiad diweddaraf y llywodraeth. Yn hytrach, mae Chwaraeon Cymru yn awyddus i bawb bwyso a mesur y sefyllfa bresennol a diogelu'r hyn sydd gennym ni. Ychwanegodd Sarah:

"Rydyn ni i gyd yn hyn gyda'n gilydd. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i ailddechrau chwaraeon unwaith eto. Rhaid i ni beidio â dad-wneud y cynnydd hwnnw.

"Ar adegau, gyda chyfyngiadau symud lleol a chyfyngiadau eraill yn dod i rym, efallai y bydd rhaid i gamp roi’r brêcs ymlaen am gyfnod byr, wrth iddyn nhw roi cyfle i adolygu'r sefyllfa, ac wedyn darparu cefnogaeth ac addysg i glybiau lleol cyn ailddechrau eto. Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar a deall mai diogelwch yw'r flaenoriaeth.

"Dydyn ni ddim yn gwybod am ba hyd y bydd effeithiau Covid-19 yn cael eu teimlo, na pha lefel o gyfyngiadau neu ganllawiau fydd chwaraeon yn gweithredu oddi tanynt nac am faint o amser. Bydd y canllawiau a’r dystiolaeth yn parhau i esblygu. Rhaid i bawb sy'n gweithio yn y sector weithio gyda hyn a bod yn barod i feddwl yn greadigol am sut rydyn ni’n parhau i sicrhau bod gweithgareddau ar gael mewn ffordd gyfrifol drwy gydol y gaeaf. 



"Rhaid i ni fod yn barod i edrych ar sut rydyn ni'n gwneud pethau'n wahanol ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir. Mae'r sector o dan bwysau mawr, ond mae gennym ni gyfle hefyd i wneud newidiadau a allai wella'r ffordd mae chwaraeon yn cael eu darparu yn y dyfodol." 



Mae’r Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yn gyfrifol am roi arweiniad a chyfarwyddyd i sicrhau y gellir gwneud gweithgareddau'n ddiogel ac yn briodol. Er bod y canllawiau manwl yn amrywio rhwng chwaraeon, mae thema gyffredin, gyda chadw pellter cymdeithasol, arferion hylendid newydd a chyfyngu ar offer a rennir yn ganolog i greu amgylcheddau chwaraeon diogel.

Mae llawer o hynny'n costio, ond mae cefnogaeth ariannol ar gael ar ffurf Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Er mwyn helpu i gadw Cymru yn symud, gall clybiau a sefydliadau chwaraeon wneud cais am gyllid i naill ai eu diogelu drwy'r argyfwng, neu eu helpu i baratoi ar gyfer dychwelyd at weithgarwch.