News
Athletau Cymru yn partneru gyda'r Urdd i lansio fformat cystadleuaeth athletau newydd i ysgolion yng Nghymru
17/03/2023 00:00, In Blog / School News /
Rydym yn falch i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Urdd Gobaith Cymru i gychwyn fformat cystadleuaeth newydd, cyffrous ar gyfer athletau ysgolion.
Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol sy’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru i fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.
Mae’r fformat newydd yn parhau ar hyd y thema o ddatblygiad hir dymor i athletwyr a chyfranogiad amlddisgyblaeth sydd wedi’i wreiddio o fewn eu strwythurau, a fydd yn darparu profiad difyr i ddisgyblion ifanc na fyddent yn cymryd rhan mewn cystadlaethau athletau fel arall.
Gan fabwysiadu fformat tîm, bydd pob athletwr yn cystadlu mewn cystadlaethau rhedeg, neidio a thaflu'r un, cyn dod at ei gilydd i gystadlu mewn ras cyfnewid ar ddiwedd y dydd a fydd yn penderfynu'r tîm buddugol.
Dywedodd Rhiannon Hawker, Pennaeth Cystadlaethau Athletau Cymru:
“Rydym yn gyffrous i gyhoeddi'r lansiad o fformat cystadleuaeth newydd ar ôl cyfnod helaeth o gynllunio a thrafodaethau gydag ysgolion. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd y llwybr ysgolion presennol, o gystadlaethau rhanbarthol i bencampwriaethau cenedlaethol trac a maes – ni fydd y rhain yn newid. Mae’r fformat newydd wedi ei gynllunio i gysylltu â disgyblion sydd ddim yn cymryd rhan yng nghampau olaf ar y daith honno ar hyn o bryd.
Mae profiad positif yn hynod o bwysig yn amgylchedd ysgolion, gan mai dyma ble mae rhan fwyaf o’n hathletwyr yn cael eu profiad cyntaf o athletau. Gobeithir y bydd y fformat tîm ac agwedd fwy hyblyg tu ôl i’r fformat cystadleuaeth hon yn sicrhau hyn. A hefyd yn sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn mynd ymlaen i fwynhau’r gamp am flynyddoedd i ddod”.
Ychwanegodd Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau'r Urdd:
“Mae’r Urdd yn falch i gynnig cyfleoedd cynhwysol amhrisiadwy trwy gyfrwng y Gymraeg a dwyieithog i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Ar hyn o bryd mae’r adran chwaraeon yr Urdd yn darparu sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol, clybiau chwaraeon yn y gymuned, cystadlaethau rhanbarthol a cenedlaethol penodol, addysg hyfforddwyr a phrentisiaethau.
Gan gyd-weithio ag Athletau Cymru, edrychwn ymlaen at gynnig mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru gael mynediad i athletau ac rydym yn gyffrous iawn i gyflwyno’r fformat newydd o gystadlaethau athletau a gweld pob rhan o Gymru yn cymryd rhan”.
Bydd dwy gystadleuaeth yn cael eu cynnig yn yr haf, y cyntaf yng Nghaerdydd ar Ddydd Iau'r 6ed o Orffennaf a’r ail ym Mangor ar Ddydd Mawrth 11eg o Orffennaf. Gobeithiwn yn dilyn sefydlu’r cysyniad, y gellir ymestyn y gystadleuaeth yn ehangach i lefel rhanbarthol yn y blynyddoedd i ddod fel ychwanegiad cyffrous i’r cyfleoedd cystadlu sydd ar gael ar hyn o bryd i ennyn diddordeb cynulleidfa newydd mewn athletau ysgolion.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y fformat cystadleuaeth newydd.