Skip to content

Cynghorau Rhanbarthol

Mae’r Cynghorau Rhanbarthol yn chwarae rhan allweddol yn nhrefn Lywodraethol Athletau Cymru. Mae gan bob Rhanbarth unigolyn enwebedig ar gyfer bob grŵp disgyblaeth a fydd yn cynrychioli barn y Rhanbarth. Mae’r Cynghorau Rhanbarthol hefyd yn lle i glybiau drafod a rhannu heriau a chyfleoedd datblygu ar gyfer y dyfodol. 

Mae gan y Rhanbarthau ddau gynrychiolydd enwebedig ar y Cyngor Cyffredinol hefyd – sy’n sicrhau bod barn, pryderon a llwyddiannau clybiau, hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr yn cael eu rhannu gydag eraill ar draws Cymru. 

Caiff bob clwb fynychu Cyngor Rhanbarthol ac fe’u hanogir i gysylltu â’u Cyngor Rhanbarthol er mwyn gweld pa gymorth sydd ar gael iddynt gan eu Rhanbarth. 

Mae pob Rhanbarth yn cefnogi strwythur cystadlu, gan gynnwys Pencampwriaethau Rhanbarthol a Rhyngranbarthol – cystadlaethau sy’n rhan allweddol o’r llwybr datblygu athletwyr ar draws bob grŵp oedran. Ceir manylion llawn ynglŷn â Chynghorau Rhanbarthol yn is-ddeddfau Athletau Cymru.

Cadeirydd: Mrs Kay Hatton 

Ysgrifennydd: Paul Brooks 

E-bost: north@welshathletics.org 

Dyddiadau cyfarfod:

· Mawrth 15fed 

· Mai 3ydd 

· Mehefin 14eg (C.C.B) 

· Medi 6ed 

· Tachwedd 1af 

Pencampwriaethau: 

· Trac a maes (awyr agored): Stadiwm Queensway, Wrecsam, Dydd Sadwrn, Mai 11eg. (Dan Do) Coleg Cambria, Cei Connah, Dydd Sadwrn Ionawr 11eg 2020 i’w gadarnhau 

· Rhedeg Bryniau/Mynyddoedd: Ras Fryniau 5.8m Elidir Fawr, Nant Peris, Dydd Sul Medi 1af 

· Traws Gwlad: Stad Rhug, Corwen: Dydd Sadwrn, Ionawr 4ydd 2020 i’w gadarnhau 

· Rhedeg ffordd: Hanner marathon: Village Bakery, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, dydd Sul Chwefror 18fed 

· Marathon: Rhedeg Cymru, canol y dref Wrecsam, dydd Sul, Mawrth 17eg 

· 10 Milltir: Rhedeg Cymru, Promenâd y Rhyl, dydd Sadwrn Chwefror 23ain 

· 5km: Rhedeg Cymru, Promenâd y Rhyl, dydd Sul Mehefin 23ain 

· 10km: Ras Goffa Helen Tipping, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, dydd Sul Gorffennaf 28ain 

· 5 Milltir: Promenâd Pensarn, Abergele, dydd Sul Tachwedd 3ydd 

· Ras Lwybr: Ras Fairy Freckled Cow, yng nghronfa ddŵr Alwen yn sir Ddinbych, dydd Sul Gorffennaf 7fed

Cadeirydd: Hillary Gooding (dros dro)

Ysgrifennydd: Bethan Akanbi-Mortimer – east@welshathletics.org 

Dyddiadau Cyfarfod: pob un yn Stadiwm Athletau Casnewydd 

· Dydd Mercher, Mawrth 13eg 

· Dydd Mercher, Mai 15fed 

· Dydd Mercher, Gorffennaf 3ydd (CCB a chyfarfod wedyn) 

· Dydd Mercher, Medi 11eg 

· Dydd Mercher, Tachwedd 13eg 

Dyddiadau Pencampwriaethau: 

· Trac a Maes – Mai 11ef yn Aberdare (gyda Phencampwyr Rhanbarthol y De)

Ffin Ddaearyddol: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg (Caerffili)* 

Cadeirydd: Dai Williams

Ysgrifennydd: Jamie Clode – south@welshathletics.org 

Dyddiadau Cyfarfod: 

· 24/04 Pont-y-clun – Ysgol y Pant 

· 25/06 TBC 

Dyddiadau Pencampwriaethau: (Dyddiadau i gyd angen eu cadarnhau yn y cyfarfod ar 21/02) 

· Pencampwriaethau Trac a Maes – Mai 11eg yn Aberdâr (gyda Phencampwyr Dwyrain Cymru) 

* Existing text regarding Caerphilly

Cadeirydd: Hedydd Davies 

Ysgrifennydd: Nathan Jones – west@welshathletics.org 

Dyddiadau Cyfarfodydd: 

· Dydd Mercher, Mawrth 13eg – Canolfan Hamdden Caerfyrddin 

Dyddiadau Pencampwriaethau: 

· Ras Lwybr – Hanner Marathon Red Kite, 10K a ras Iau (D20, D17, D15) – Dydd Sadwrn, Mai 4ydd 

· Trac a Maes – Mai 11eg – Abertawe