Skip to content

Gweithio fel Hyfforddwr

fullsizeoutput_d626.jpeg

Oes gennych chi uchelgais o weithio gyda phlant ifanc drwy flynyddoedd eu datblygiad allweddol neu hyfforddi athletwyr uwch talentog i ennill bri rhyngwladol? Mae swyddogaeth yn y maes athletau a fydd yn ateb eich anghenion chi.

Mae Llwybr Datblygu Hyfforddwr newydd British Athletics wedi ei gynllunio’n unol ag anghenion hyfforddwyr sy’n gweithio gydag amrywiol grwpiau targed. O dan y strwythur newydd, ystyrir fod pob swydd hyfforddi yr un mor werthfawr i’r maes; gall hyfforddwyr wedyn ddilyn y llwybr priodol ar gyfer yr athletwyr y maent yn gweithio gyda nhw yn ogystal â’r llwybr priodol ar gyfer eu dyheadau a’u huchelgeisiau fel hyfforddwyr.

Mae bod yn hyfforddwr athletau yn golygu:

  • cymhwyster cydnabyddedig
  • cyrsiau a gweithdai i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau hyfforddi
  • egwyddorion cysylltiedig â’r hyn y dylid ei ddysgu i athletwyr a’r dull o’i ddysgu yn hyderus a diogel
  • yswiriant priodol drwy raglen Hyfforddwyr ac Arweinwyr UKA.

Mae dau bwynt mynediad amlwg i Lwybr Datblygu Hyfforddwyr British Athletics – un ai fel Arweinydd neu fel Hyfforddwr Cynorthwyol. Gweler y rhestr lawn o gymwysterau i gael mwy o fanylion.

Mae rhestr lawn o’r cyrsiau hyfforddwr sydd ar gael ar hyn o bryd ar gael ar dudalen Calendr Hyfforddiant.